Ffeithiau ynghylch 101……
- Darperir 101 drwy gydweithrediad rhwng y pedwar Gwasanaeth Heddlu yng Nghymru.
- Mae 101 wedi bod ar gael ar draws Cymru gyfan er Ebrill 2009.
- 101 yw’r newid mwyaf i’r ffordd y gall y cyhoedd gysylltu â’r Heddlu ers sefydlu’r system frys 999 yn y 1940au.
- Mae’r rhwydwaith technegol sy’n cynnal 101 wedi ei ariannu’n rhannol gan y Swyddfa Gartref.
- Mae galwadau 101 yn cael eu hateb mewn canolfannau Heddlu lleol ar draws Cymru.
- Mae 101 wedi eu sefydlu i weithio ochr yn ochr â’r system frys 999.
- Mae 101 yn benodol ar gyfer materion di-frys.
Dylech barhau i ffonio 999 mewn achos brys.