Croeso i 101

  • 101 yw'r rhif ffôn 24 awr y mae'r Heddlu yng Nghymru wedi ei ddarparu er mwyn ymdrin â galwadau nad ydynt yn rhai brys.
  • 101 yw'r ffordd o gysylltu â'r Heddlu ar gyfer pob peth nad yw’n achos brys.
  • 101 yw'r rhif i'w ffonio i gysylltu â’ch Heddlu lleol ble bynnag yr ydych chi yng Nghymru.
  • NID yw 101 yn cymryd lle 999 ar gyfer galw’r gwasanaethau brys.

Dylech barhau i ffonio 999 mewn achos brys.