Cwestiynau cyffredin...
A yw 101 ar gael ar draws Cymru gyfan?
Ydi, gallwch ffonio 101 o unrhyw fan o fewn ardal pedwar Gwasanaeth Heddlu Cymru. Gallwch ffonio 101 o bob llinell ffôn cyffredin (gan gynnwys blychau ffôn). Os ydych yn cael anhawster wrth ddefnyddio’r gwasanaeth 101 o’ch ffôn symudol dylech gysylltu â’ch cwmni darparu gwasanaeth am gymorth.
Sut mae 101 yn fy nghysylltu â fy Ngwasanaeth Heddlu lleol?
Mae pob galwad 101 yn pasio trwy system sy’n adnabod ymhle y mae’r galwadau wedi eu gwneud, yna mae’r system yn sicrhau bod y galwadau hyn yn cael eu pasio ymlaen at Wasanaeth Heddlu’r ardal briodol. Mewn ardaloedd sydd ar ffiniau ardaloedd Gwasanaethau Heddlu gall rhai galwadau gael eu cysylltu i gychwyn â’r Gwasanaeth Plismona Bro. Yn yr achosion hyn mae’n bosib y bydd angen ail-gyfeirio’r alwad. Ni fydd cost ychwanegol i’r galwr oherwydd hyn.
Beth yw pris galwad i 101?
Mae galwadau o linellau safonol BT yn costio 10c am yr alwad gyfan. Gall cost galwadau i 101 o rwydweithiau eraill a darparwyr gwasanaethau symudol amrywio. Cysylltwch â’ch cwmni ffôn i gadarnhau’r pris.
A allaf i gysylltu â 101 gan ddefnyddio ffôn rhyngrwyd neu fand eang?
Nid yw’r mwyafrif o’r darparwyr gwasanaeth sy’n darparu gwasanaethau Teleffoni Llais Dros y Rhyngrwyd yn caniatáu galwadau i 101 dros eu systemau. Cysylltwch gyda’ch cwmni rhyngrwyd i wneud yn siwr.
A yw 101 yr un peth â 112?
Na, 112 yw’r rhif ffôn brys Ewropeaidd. Mae’n gweithio yn yr un ffordd â 999 ac y mae ar gael ar draws holl wledydd yr Undeb Ewropeaidd, gan gynnwys y Deyrnas Unedig. Mae 101 yn rhif DI-FRYS.
A fydd 101 yn cymryd lle 999?
Na, 101 yw’r ffordd i gysylltu â’r Heddlu yng Nghymru pan nad oes achos brys. Bydd 999 yn parhau fel y rhif i’w ffonio pan fyddwch angen riportio achos brys fel trosedd sy’n digwydd ar hyn o bryd, pan fydd trais yn cael ei ddefnyddio neu ei fygwth, sefyllfa lle mae rhywun newydd darfu ar droseddwr neu os yw troseddwr newydd ffoi, neu os oes damwain ffordd lle mae pobl wedi eu hanafu neu os oes rhwystr ar y ffordd.
A yw galwadau i 101 yn cael eu hateb gan yr Heddlu?
Ydyn, mae pob galwad i 101 yn cael eu hateb gan gysylltwyr yr heddlu. Sylwch y gall galwadau gael eu recordio ar gyfer hyfforddi, datblygu, tystiolaeth a rhesymau diogelwch y cyhoedd.
A yw 101 ar gael y tu allan i Gymru?
Ydi, mae 101 ar gael mewn rhai rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig. Mae gan nifer o Wasanaethau Heddlu ac Awdurdodau Lleol eraill yn Lloegr a Gogledd Iwerddon wasanaethau tebyg i’r gwasanaeth 101 yng Nghymru.
A allaf i ddefnyddio 101 i gysylltu â’r Heddlu yng Nghymru o rywle arall yn y DU?
Na, ar hyn o bryd dim ond yng Nghymru ac mewn rhai rhannau eraill o Loegr a Gogledd Iwerddon y mae’r gwasanaeth 101 ar gael. Os byddwch angen cysylltu â Gwasanaeth Heddlu yng Nghymru o’r tu allan i Gymru bydd angen defnyddio rhif ffôn “safonol”. Ewch at wefan y Gwasanaeth Heddlu yr ydych yn dymuno cysylltu â nhw i gael eu rhif ffôn “tu allan i Gymru”. Gallwch fynd at y gwefannau perthnasol drwy glicio ar y bathodynnau uchod.
A yw 101 ar gael 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos?
Ydi, mae 101 ar gael drwy’r dydd, pob diwrnod o’r flwyddyn (gan gynnwys penwythnosau a Gwyliau Cyhoeddus).
A allaf i gysylltu â fy Ngwasanaeth Heddlu o unrhyw le yng Nghymru?
Gallwch, mae 101 ar gael ar draws Cymru gyfan ac mae Gwasanaethau Heddlu Cymru’n cydweithio i sicrhau eich bod yn gallu cysylltu â phob gwasanaeth unigol o ble bynnag yr ydych. Er enghraifft, os ydych yn byw ym Mangor (sydd dan ofal Heddlu Gogledd Cymru), ac yn gweithio yn Abertawe (sydd dan ofal Heddlu De Cymru) gallwch ffonio 101 tra yn y gwaith a gofyn am gael eich cysylltu â Heddlu Gogledd Cymru. Ni fydd tâl ychwanegol am hyn.



